Cafodd hwn ei gyhoeddi/ysgrifennu gan Gorwel Roberts o Benrhyndeudraeth (aelod o fand Bob Delyn, yr Ebillion) a daeth allan adeg Eisteddfod Porthmadog yn 1987. Mae’r clawr “cut and paste” yn rhoi syniad da o beth sy’n eich disgwyl tu mewn. Fel pob fanzine da, mae’n dechrau efo safbwynt golygyddol cadarn:
Neu, yn gryno: Edward H – diflas a hen ffasiwn, bandiau newydd – cyffrous! Dwi’n reit siŵr mai band Gorwel ei hun oedd y Camelod Fflat, yn chwarae cerddoriaeth reit atmosfferig os dwi’n cofio’n iawn. Mae gweddill y bandiau ar y rhestr yn gyfarwydd, ond Marwolaeth Llo Mewn Cae? Babŵns Lloerig? Pwy oedd y rheiny?
Pasiwyd deddf yn 1983 yn gorfodi holl gyhoeddwyr ffansins Cymru i gynnwys cyfweliad efo Datblygu ym mhob rhifyn, a tydi Dyfodol Dyddiol ddim yn ein siomi. Mi oedd David a Pat yn gwybod sut i roi dyfyniad da:
Yn y pendraw mae’r bedd yn hongian fel y bygythiad eithaf. ‘Sdim ots beth mae rhywun yn cyflawni mewn bywyd, chi’n gorffen i fyny yn cael eich bwyta gan y pryfed. I raddau wedyn mae bywyd fel un jôc chwerthinllyd, a mae hyn yn lliwio’r ffordd rwy’n meddwl am bopeth.
A Pat, wedyn, yn ymateb i sylw David bod “Hollol, Hollol, Hollol” wedi cael ei chwarae ar Radio 1 cyn Radio Cymru:
Mae Datblygu yn y sîn Gymraeg fel Leonard Cohen yn cystadlu yn yr Eurovision Song Contest.
Mae elfen wleidyddol yma hefyd, yn ogystal a’r agwedd gwrth-greulondeb i anifeiliaid sydd ar y clawr (ac ar y cefn), mae’n cynnwys cyfweliad efo Dafydd Elis Thomas sy’n llenwi pedair tudalen gyfan. Mae’n trafod ei ddiffiniad o genedlaetholdeb, ydi Dafydd Wigley yn sosialydd, a sôn am lywodraeth i Gymru a’r Alban yn y dyfodol:
…dwi’n meddwl ei bod hi hefyd yn wir i ddweud bod y rhan fwyaf o’r bobl yn y Blaid Lafur ar hyn o bryd yn meddwl yn nhermau llywodraeth Lafur, nid yn nhermau llywodraeth i Gymru…
Ar y posibilrwydd o ryw fath o glymblaid o “rymoedd radical” yn dal grym mewn cynulliad yng Nghymru yn y dyfodol:
…dwi ddim yn cyfri y rhan fwyaf o’r Blaid Lafur yng Nghymru ymhlith y grymoedd radical yna oherwydd ei bod yn blaid mor geidwadol mewn llywodraeth leol…
Digon teg. Yn olaf, dyma gyfweliad efo Dic Ben o Elfyn Presli:
Hysbysiad: Tynal Tywyll – Caset Hollol Answyddogol | Fanzine Ynfytyn