Cyhoeddwyd hwn gan Gymdeithas yr Iaith Gymraeg Rhanbarth Clwyd (gyda chymorth gan y dirgel “Cyngor y Distryw”). Dechreuodd fel “Llmych” ond fe newidwyd trefn y llythrennau i amrywio’r teitl o rifyn i rifyn. Mae fy nghasgliad yn dechrau efo’r chweched rhifyn (a ddaeth allan yn 1986), ond dwi’n cofio darllen rhifynnau blaenorol, efallai gan ffrindiau ysgol oedd efo cysylltiadau ag ardal Clwyd. I gymharu a ffansîns y cyfnod, mae hwn yn gyhoeddiad sylweddol iawn, 16 tudalen A4 yn llawn print mân, ac mae’n cymeryd safbwynt gwleidyddol pendant o’r dudalen gyntaf:
Y peth mwyaf nodweddiadol yn fy marn i ydy’r ffordd mae’n ymdrin ag achosion gwleidyddol asgell-chwith y cyfnod – yn dechrau yn amlwg trwy drafod ymgyrchoedd ag achosion llys CYIG ond hefyd yn edrych yn ehangach na gogledd Cymru yn unig. Yn y rhifyn hwn mae sylw i wleidyddiaeth Catalonia a Gwlad y Basg, y Mudiad Gwrth-Apartheid, a chyfwelaid diddorol gyda Tony Mulhearne, aelod o Militant ar gyngor Lerpwl yn egluro safiad Militant yn erbyn y Toriaid yn yr wythdegau. Mae’n nodi hefyd:
…pam fy mod i’n cydymdeimlo efo Cymdeithas yr Iaith Gymraeg. Dylai pobl fedru cadw eu hiaith eu hunain a’u ffordd o fyw. Ond yn fy marn i, dim ond o fewn cyfundrefn sosialaidd a ninnau yn feistri ar yr economi yn lle bo’r economi yn feistr arnon ni y bydd hyn yn bosibl.
Prin ydy’r cynnwys cerddorol – heblaw am erthygl byr gan Rhys Mwyn am glywed record ar raglen Andy Kershaw gan fand o Lundain oedd yn cynnwys rapio yn Gymraeg, a darn am yr e.p. “Galwad ar Holl Filwyr Byffalo Cymru”. Wrth gwrs, fysa ffansîn o’r wythdegau ddim yn gyflawn heb dudalen yn beirniadu’r cyfryngau, Roc ‘rol Tê a Cadw Reiat sy’n ei chael hi tro yma:
Mae’r hiwmor graffeg “cut and paste” yn bresennol fel y disgwyl: