Dwi ddim yn cofio sut nes i glywed am hwn, ond mi oedd yn amlwg yn swnio’n ddiddorol felly nes i anfon 10c a stamp i “John Jones” a “Heulwen Jones” yn rhyw gyfeiriad tu allan i Aberhonddu. Dwi’n meddwl mai’r cyfweliad efo David R Edwards ddaru ddal fy sylw yn y lle cyntaf ac mae’r cyfweliad yn llawn (a mwy) i’w weld yn Beibl Datblygu. Nes i ddim gwneud y cysylltiad blynyddoedd yn ddiweddarach pan ddaru’r teitl ymddangos yng ngeiriau’r gân “Pop Peth” allan, ond wrth gwrs, “John Jones” a “Heulwen Jones” oedd David a Pat.
Mae ‘na hefyd erthygl doniol iawn gan “Heulwen” yn disgrifio llwythau cerddorol Cymru, e.e.: