Mi brynais i lawer o ffansîns dros yr wythdegau a’r nawdegau cynnar, ac mi ddechreuodd o i gyd yn Eisteddfod Abertawe yn 1982 (er mi oedd hwn yn rhâd ac am ddim, dwi ddim yn cofio lle bigais i o fyny). Mae’n edrych yn debyg bod Amser Siocled wed’i greu gan Geraint Williams i hybu label casetiau LOLA a’r cyngherddau roedd MAC (“Mudiad Adloniant Craigcefnparc”) yn rhoi ymlaen yn Wind Street yn ystod y Steddfod – mi o’n i’n rhy ifanc i fynd i gigs adeg hynny ond roedd gen i ddiddordeb mewn bandiau a recordiau Cymraeg ers blynyddoedd. Mi oeddwn i’n darllen Sgrêch, yn gwrando ar Richard Rees ar Sosban ac yn gwylio Sêr ar HTV, ond mi oedd Amser Siocled yn awgrymu bod pethau mwy diddorol yn mynd ymlaen ar yr ymylon…
Rhai o’r uchafbwyntiau:
- Dwy dudalen gyfan yn disgrifio “SUT I WNEUD CASET – braslun syml ac ymarferol i’r grwp neu unigolyn (yn hytrach na dechrau busnes)”. Cyfeiriadau stiwdios, manylion sut i argraffu labeli a.y.y.b.
- Rhestr o “20 record hanfodol i gasglwyr recordiau Cymraeg” gan “Gary Morfil” (Gary Melville?)
- Cyfweliad byr efo’r Celfi Cam.
Yn unol a gwleidyddiaeth y cyfnod, mae un dudalen cyfa yn ysgogi’r darllenwr i ymuno a chefnogi y Mudiad Diarfogi Niwcliar (CND). Ar y dudalen cefn mae na erthygl llawn dîg yn beirniadu Radio Cymru (Sosban) am beidio chwarae cerddoriaeth LOLA – thema a daeth i’w weld yn gyffredin iawn mewn cyhoeddiadau tebyg yn y dyfodol.
Mae na hefyd hysbyseb estynedig am gaset gan rhywun o’r enw Tim Leadbeater (“gitarydd unfraich o Gymro Llundain” – unfraich?) – glywais i ‘rioed ganeuon Tim, be ddigwyddodd iddo fo?
Waw, diddorol iawn,. DIolch am rannu
Falch bod rhywun arall yn ffeindio’r hen stwff ‘ma’n diddorol! Llawer mwy i ddod…
Hysbysiad: Tynal Tywyll – Caset Hollol Answyddogol | Fanzine Ynfytyn