Roedd casetiau yn rhan annatod o fyd y fanzines yn yr wythdegau. Roedd erthyglau yn Amser Siocled a Dyfodol Dyddiol ar sut i recordio cerddoriaeth ar gaset, cynhyrchu copiau a chynllunio ac argraffu cloriau. Llawer haws dyblygu 100 a gasetiau a llungopio cloriau na rhyddhau sengl neu LP – fel a ddangoswyd gan y Celfi Cam, Anhrefn, Datblygu, Malcolm Neon/Gwyon a llawer eraill. Clywais Ian Morris ar Radio Cymru rhyw fore Sadwrn yn 1985 yn siarad am y sesiwn oedd Tynal Tywyll wedi recordio i’r rhaglen Cadw Reiat – roedd Cam O’r Tywyllwch newydd ddod allan (yn cynnwys y traciau “Paid a Synnu” ac “Yr Effaith”) ac roedd mwy o recordiau gan y grwpiau newydd cyffrous yma ar y ffordd. Cynigiodd recordio caset o demos i unrhywun fysa’n anfon caset gwag iddo – fel hyn oedd filesharing yn gweithio yn 1985. Mi oeddwn yn hoff o sŵn y band ac yn awyddus i glywed mwy felly nes i nodi’r cyfeiriad ac anfon C60 yn y post. Cefais fy TDK D-C60 yn ôl ymhen ychydig ddyddiau wedi’i recordio efo cymysgedd o draciau a ddaeth o sesiwn Cadw Reiat a rhai recordiwyd yn Stiwdio Ofn efo Gorwel Owen. Roedd na hefyd fersiwn byw cynnar o “Cymera Fi” (safon eithaf gwael).
Efo’r caset roedd llythyr gan Ian Morris lle buodd yn egluro ei fod yn poeni bod pobl yn meddwl bod nhw’n swnio’n rhy debyg i’r Smiths, yn enwedig y gân “C.C.C.” (fersiwn gwahanol i’r un ymddangosodd ar eu EP cyntaf):
Roedd digon a ganeuon addawol iawn ar y tâp, caneuon llawer mwy mewnsyllgar na’u caneuon upbeat diweddarach, fel “Eleri”, “Yfory” a “Clychau’r Gôg”:
Mi ddaru’r rhan fwyaf o’r traciau yma ymddangos ar gaset a gyhoeddwyd gan label Ankst yn 1988, a dim cyd-ddigwyddiad oedd defnyddio’r teitl nes i roi ar glawr fy nghaset nôl yn 1985 (o ddyfyniad gan Ian Morris pan ofynnwyd iddo sut i ddisgrifio sŵn y band)!